15 Nid oes gwenwyn gwaeth na gwenwyn sarff,na llid gwaeth na llid gelyn.
16 Dewisach gennyf gartrefu gyda llew neu ddraigna chartrefu gyda gwraig faleisus.
17 Y mae malais gwraig yn newid ei gwedd,a duo'i hwyneb fel wyneb arth.
18 Gyda'i gymdogion y bydd ei gŵr yn cymryd ei brydau,ac yn methu peidio ag ochneidio'n ddwys.
19 Bach yw pob drygioni yn ymyl drygioni gwraig;syrthied iddi gyfran pechadur!
20 Fel dringo twyn tywod i draed hynafgwryw byw gyda gwraig dafotrydd i ŵr tawel.
21 Paid â syrthio'n ysglyfaeth i brydferthwch gwraig,na rhoi dy fryd ar feddiannu gwraig.