19 Bach yw pob drygioni yn ymyl drygioni gwraig;syrthied iddi gyfran pechadur!
20 Fel dringo twyn tywod i draed hynafgwryw byw gyda gwraig dafotrydd i ŵr tawel.
21 Paid â syrthio'n ysglyfaeth i brydferthwch gwraig,na rhoi dy fryd ar feddiannu gwraig.
22 Dicter, hyfdra ac amarch mawrfydd rhan gŵr os ei wraig sy'n ei gynnal.
23 Iselder ysbryd, gwedd wynepdrist,a chalon glwyfus a rydd gwraig faleisus;dwylo llesg a gliniau gwanfydd i'r gŵr nad yw ei wraig yn achos gwynfyd iddo.
24 O wraig y tarddodd pechod,ac o'i hachos hi yr ydym oll yn marw.
25 Paid â rhoi cyfle i ddŵr ollwng,na chyfle i wraig faleisus siarad yn ddiatal.