9 gwyn ei fyd y sawl a gafodd hyd i ddealltwriaeth;a'r sawl sy'n traethu yng nghlyw rhai sy'n gwrando arno.
10 Mor fawr yw'r sawl a ddaeth o hyd i ddoethineb!Ond nid oes neb mwy na'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd.
11 Y mae ofn yr Arglwydd yn rhagori ar bopeth;pwy sydd i'w gymharu â'r sawl sydd â'i afael arno?
13 Unrhyw glwyf ond clwyf i'r galon!Unrhyw falais ond malais gwraig!
14 Unrhyw aflwydd ond aflwydd o du caseion!Unrhyw ddial ond dial gelynion!
15 Nid oes gwenwyn gwaeth na gwenwyn sarff,na llid gwaeth na llid gelyn.
16 Dewisach gennyf gartrefu gyda llew neu ddraigna chartrefu gyda gwraig faleisus.