1 Gwraig dda yw gwynfyd ei gŵr,yn dyblu nifer ei ddyddiau.
2 Gwraig lew yw llawenydd ei gŵr,yn llenwi ei flynyddoedd â heddwch.
3 Gwraig dda, y mae'n gyfran dda,y gyfran a roddir i'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd;
4 yn gyfoethog neu'n dlawd, bydd eu calon yn llona'u hwyneb bob amser yn siriol.
5 Rhag tri pheth y brawychodd fy nghalon,ac y mae pedwerydd yr wyf yn dychryn rhag ei weddenllib dinas, cynulliad torf,a gaudystiolaeth—pethau blin, gwaeth nag angau, bob un.
6 Gofid calon a thrallod yw cenfigen gwraig wrth wraig arall,a llach ei thafod ar bawb yn ddiwahân.