13 Y mae swyn gwraig yn llonni ei gŵr,a'i medr yn rhoi cnawd ar ei esgyrn.
14 Rhodd gan yr Arglwydd yw gwraig ddistaw,a'i henaid disgybledig yn amhrisiadwy.
15 Swyn ar ben swyn yw gwraig wylaidd,a'i henaid diwair yn ddifesur ei werth.
16 Fel haul yn codi yn uchelderau'r Arglwydd,y mae prydferthwch gwraig dda yn harddu ei thŷ;
17 fel lamp yn llewyrchu ar ganhwyllbren sanctaidd,y mae prydferthwch ei hwyneb ar gorff aeddfed.
18 Fel colofnau aur ar waelod arian,felly mae traed lluniaidd a'u sodlau cadarn.
28 Dau beth sy'n peri loes i'm calon,a thrydydd peth yn codi fy ngwrychyn:milwr mewn angen o achos tlodi;rhai deallus yn cael eu trin fel baw;a rhywun yn cefnu ar gyfiawnder i ddilyn pechod—fe ddarpara'r Arglwydd i un felly gleddyf i'w ladd.