7 Y mae llawer yn gwrthod rhoi ar fenthyg, er nad o falais;ofn cael eu colledu heb achos sydd arnynt.
8 Er hynny, bydd yn amyneddgar wrth yr anghenus,a phaid ag oedi rhoi d'elusen iddo.
9 Er mwyn y gorchymyn cynorthwya'r tlawd,ac yn ei angen paid â'i droi ymaith yn waglaw.
10 Gwell yw colli dy arian er mwyn brawd neu gyfaillna'i golli trwy ei adael i rydu dan garreg.
11 Storia dy drysor yn ôl gorchmynion y Goruchaf,ac fe dâl i ti yn well nag aur.
12 Rho elusengarwch ynghadw yn d'ystordai,a bydd yn waredigaeth iti rhag pob aflwydd.
13 Cryfach na tharian, grymusach na phicell,fydd arfogaeth o'r fath iti i ymladd â'th elyn.