8 Parcha dy dad ar weithred ac ar air,er mwyn i'w fendith ddisgyn arnat.
9 Oherwydd bendith tad sy'n rhoi cadernid i gartrefi'r plant,ond y mae melltith mam yn tanseilio'u sylfeini.
10 Paid â cheisio clod i ti dy hun ar draul anfri dy dad,canys nid clod i ti yw anfri dy dad.
11 Oherwydd daw clod i ddyn o'r bri a roddir i'w dad,a gwarth i blant yw anghlod eu mam.
12 Fy mab, cynorthwya dy dad yn ei henaint,a phaid â'i dristáu tra bydd ef byw.
13 A phan fydd ei synnwyr yn pallu, dylit gydymddwyn ag ef,a phaid â'i ddirmygu am dy fod ti yn dy lawn gryfder.
14 Oherwydd nid anghofir caredigrwydd i dad;fe'i codir yn gaer o'th gylch rhag cosb dy bechodau.