1 Bydd dyn sy'n caru ei fab yn ei chwipio'n fynych,er mwyn cael llawenydd ynddo yn ddiweddarach.
2 Bydd dyn sy'n disgyblu ei fab yn cael budd ohono,a chaiff ymffrostio ynddo ymhlith ei gydnabod.
3 Bydd dyn a rydd addysg i'w fab yn deffro eiddigedd ei elyn,a chaiff ymfalchïo ynddo yng ngŵydd ei gyfeillion.
4 Pan fydd y tad wedi marw, bydd fel petai heb farw,gan iddo adael ei debyg ar ei ôl.
5 Yn ei fywyd fe'i gwelodd a llawenychu ynddo,ac yn ei farw ni phrofodd dristwch.
6 Gadawodd etifedd i ddial ar ei elynionac i dalu'n ôl garedigrwydd ei gyfeillion.