16 Nid oes cyfoeth gwell na iechyd corffna llonder llawnach na llawenydd calon.
17 Gwell marwolaeth na bywyd o drueni,a gorffwys tragwyddol nag afiechyd sy'n parhau.
18 Y mae tywallt danteithion gerbron rhywun a'i geg wedi ei chaufel gosod offrymau o fwyd ar fedd.
19 Pa les yw offrwm i eilun,ac yntau heb allu blasu nac arogli dim?Dyna gyflwr y sawl a gystuddir gan yr Arglwydd.
20 Y mae'n gweld â'i lygaid ac yn griddfan,griddfan fel y bydd eunuch wrth gofleidio gwyryf.
21 Paid ag ymollwng i dristwch,nac ymgystuddio o'th wirfodd.
22 Y mae llonder calon yn fywyd i rywun,a gorfoledd rhywun yn estyn ei ddyddiau.