4 Pan fydd y tad wedi marw, bydd fel petai heb farw,gan iddo adael ei debyg ar ei ôl.
5 Yn ei fywyd fe'i gwelodd a llawenychu ynddo,ac yn ei farw ni phrofodd dristwch.
6 Gadawodd etifedd i ddial ar ei elynionac i dalu'n ôl garedigrwydd ei gyfeillion.
7 Bydd dyn sy'n maldodi ei fab yn rhwymo'i friwiau i gyd,a bydd ei deimladau mewn cynnwrf wrth bob cri.
8 Y mae ebol heb ei ddofi yn tyfu'n geffyl anhydrin,a mab heb ei reoli yn tyfu'n ddyn anhywaith.
9 Rho fwythau i blentyn, a daw â braw iti;bydd chwareus gydag ef, a daw â thrallod iti.
10 Paid â chwerthin gydag ef, rhag iti ofidio gydag ef,a'th gael yn y diwedd yn rhincian dy ddannedd.