1 Y mae anhunedd o achos cyfoeth yn bwyta'r cnawd,a phryder amdano'n cadw cwsg draw.
2 Y mae anhunedd pryderus yn rhwystro hepian,fel y mae afiechyd blin yn tarfu cwsg.
3 Y mae'r cyfoethog yn llafurio i gasglu golud,a phan beidia, bydd ganddo gyflawnder o foethau.
4 Y mae'r tlawd yn llafurio i grafu bywoliaeth brin,a phan beidia, bydd mewn angen.