3 Cod dy law yn erbyn cenhedloedd estron,iddynt gael edrych ar dy allu di.
4 Fel y gwelsant hwy dy sancteiddrwydd yn ein hanes ni,gad i ninnau weld dy fawredd yn eu hanes hwy.
5 A phâr iddynt hwy ddeall, fel y deallasom ninnau,nad oes Duw ond tydi, O Arglwydd.
6 Gwna arwyddion newydd a rhyfeddodau gwahanol,i ddangos gogoniant dy law a'th fraich dde.
7 Deffro dy lid a thywallt dy ddigofaint;difroda dy wrthwynebwyr a difa dy elyn.
8 Prysura'r dydd a chofia dy lw; a phâr i bobl draethu dy fawrion weithredoedd.
9 Gad i dân dy ddigofaint ysu'r neb a gais ddianc,ac i golledigaeth oddiweddyd gorthrymwyr dy bobl.