15 Uwchlaw'r cwbl deisyf ar y Goruchaf,iddo ef dy gyfarwyddo ar hyd ffordd gwirionedd.
16 Dechrau pob gwaith yw ei drafod,ac yn blaenori ar bob ymgymeriad y mae ymgynghori.
17 Y mae newid yn y meddwl
18 yn dilyn pedwar tro ar fyd—da a drwg, bywyd a marwolaeth—a'r tafod sy'n eu rheoli bob un yn wastadol.
19 Gall rhywun fod yn amryddawn ac yn athro i lawer,ac eto fod yn anfuddiol iddo ef ei hun.
20 Gall rhywun fod yn feistr ar eiriau, ond yn atgas gan bawb;caiff hwn weld prinder bwyd,
21 am na roddodd yr Arglwydd raslonrwydd iddo,gan mor amddifad yw o ddoethineb.