17 Y mae newid yn y meddwl
18 yn dilyn pedwar tro ar fyd—da a drwg, bywyd a marwolaeth—a'r tafod sy'n eu rheoli bob un yn wastadol.
19 Gall rhywun fod yn amryddawn ac yn athro i lawer,ac eto fod yn anfuddiol iddo ef ei hun.
20 Gall rhywun fod yn feistr ar eiriau, ond yn atgas gan bawb;caiff hwn weld prinder bwyd,
21 am na roddodd yr Arglwydd raslonrwydd iddo,gan mor amddifad yw o ddoethineb.
22 Gall rhywun fod yn ddoeth er ei les ei hun,ond geiriau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.
23 Ond y dyn doeth, bydd ef yn athro i'w bobl ei hun,a phethau i'w credu fydd ffrwyth ei ddeallusrwydd.