11 Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear,a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr.
12 Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder,ond fe saif ffyddlondeb am byth.
13 Fel ffrwd yn sychu y bydd cyfoeth yr anghyfiawn,yn darfod fel twrw taran fawr mewn cawod o law.
14 Wrth agor ei ddwylo caiff rhywun lawenydd;yn yr un modd daw troseddwyr i ddifodiant llwyr.
15 Ni thyf llawer o ganghennau o gyff yr annuwiol,a'u gwreiddiau pwdr wedi eu plannu ar greigle noeth.
16 Y mae'r hesg sy'n tyfu lle bynnag y mae dŵr neu afon yn rhedegyn haws eu tynnu nag unrhyw dyfiant arall.
17 Y mae rhadlonrwydd yn baradwys o fendithion,ac elusengarwch yn dragwyddol ei barhad.