6 Ni chaiff nemor ddim gorffwys,ac nid yw ei gwsg, pan ddaw, yn ddim gwell na bod yn effro y dydd;a'i galon ar garlam mewn hunllef,y mae fel un wedi ffoi o faes y gad,
7 ac ar foment ei ddihangfa, y mae'n deffroac yn rhyfeddu mor ddisail oedd ei ofn.
8 Dyma hanes pob cnawd, yn ddyn ac anifail,a seithwaith gwaeth yn hanes pechaduriaid:
9 marwolaeth, a thywallt gwaed, a chynnen, a chleddyf,trallodion, newyn, cyfyngder, a phla.
10 Ar gyfer y drygionus y crewyd y rhain i gyd,ac o'u hachos hwy y daeth y dilyw.
11 Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear,a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr.
12 Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder,ond fe saif ffyddlondeb am byth.