9 marwolaeth, a thywallt gwaed, a chynnen, a chleddyf,trallodion, newyn, cyfyngder, a phla.
10 Ar gyfer y drygionus y crewyd y rhain i gyd,ac o'u hachos hwy y daeth y dilyw.
11 Y mae popeth sydd o'r ddaear yn dychwelyd i'r ddaear,a phopeth sydd o'r dyfroedd yn troi'n ôl i'r môr.
12 Dileir pob prynu á rhodd, a phob anghyfiawnder,ond fe saif ffyddlondeb am byth.
13 Fel ffrwd yn sychu y bydd cyfoeth yr anghyfiawn,yn darfod fel twrw taran fawr mewn cawod o law.
14 Wrth agor ei ddwylo caiff rhywun lawenydd;yn yr un modd daw troseddwyr i ddifodiant llwyr.
15 Ni thyf llawer o ganghennau o gyff yr annuwiol,a'u gwreiddiau pwdr wedi eu plannu ar greigle noeth.