20 Y mae gwynt oer y gogledd yn chwythuac yn caledu'r rhew ar wyneb y dŵr;ar bob cronfa o ddŵr fe ddaw'r rhew,a'r dŵr yn ei wisgo fel llurig.
21 Y mae'n difa'r mynyddoedd ac yn llosgi'r anialwch,ac yn crino'r borfa fel tân.
22 Yn sydyn daw niwlen i iacháu pob peth;ac wedi'r gwres, y gwlith yn disgyn i sirioli'r wlad.
23 Llonyddodd ef y dyfnfor â grym ei feddwl,a phlannodd ynysoedd ynddo.
24 Y mae'r rhai sy'n hwylio ar y môr yn traethu am ei beryglon,nes peri syndod i ni sy'n eu clywed.
25 Ynddo gwelir creaduriaid anhygoel a rhyfeddol,anifeiliaid o bob rhywogaeth ac angenfilod y môr.
26 O'i allu ei hun fe ddwg i ben ei holl amcanion,ac yn ei air ef y mae popeth yn cydsefyll.