25 Ynddo gwelir creaduriaid anhygoel a rhyfeddol,anifeiliaid o bob rhywogaeth ac angenfilod y môr.
26 O'i allu ei hun fe ddwg i ben ei holl amcanion,ac yn ei air ef y mae popeth yn cydsefyll.
27 Faint bynnag a ddywedwn, ni allwn byth ddod i ben.Swm a sylwedd yr hyn a draethwyd yw: ef yw'r cyfan.
28 O ble y cawn fedr i ganu ei glod?Oherwydd mwy yw ef na'i weithredoedd i gyd.
29 Ofnadwy yw'r Arglwydd, a mawr iawn,a rhyfeddol yw ei allu ef.
30 Gogoneddwch yr Arglwydd, dyrchafwch efhyd eithaf eich gallu, oherwydd rhagorach lawer yw na'ch mawl;dyrchafwch ef, ymegnïwch yn fwyfwyheb ddiffygio dim, oherwydd ni ddewch byth i ben.
31 Pwy a'i gwelodd ef, i fedru traethu amdano?A phwy a all ei fawrhau yn deilwng o'r hyn ydyw?