9 Y sêr yn eu gogoniant yw prydferthwch y nef,llu goleulon uchelderau'r Arglwydd.
10 Ar archiad yr Un Sanctaidd fe safant yn eu trefn,heb ddiffygio byth yn eu gwyliadwriaethau.
11 Edrych ar fwa'r enfys a folianna'i greawdwr;teg odiaeth yw ei lewyrch ef,
12 yn amgylchu'r nef â chylch o ysblander,wedi ei dynnu gan ddwylo'r Goruchaf.
13 Ei orchymyn ef sy'n prysuro'r eira,ac yn cyflymu mellt ei farnedigaethau.
14 Felly hefyd yr agorir yr ystordaii'r cymylau hedfan allan fel adar.
15 Â'i allu nerthol y crynhoir y cymylauac y melir y cesair mân.