4 Bu rhai'n cyfarwyddo'r bobl â'u cynghorionac â'u dealltwriaeth o addysg y bobl,yn hyfforddi â geiriau doeth.
5 Yn eu plith yr oedd cyfansoddwyr cerddoriaethac awduron arwrgerddi ein llên.
6 Yr oedd rhai yn wŷr cyfoethog a chryf eu hadnoddau,yn byw'n heddychlon yn eu cartrefi.
7 Y rhain i gyd, cawsant glod yn eu cenedlaethau,a dod yn achos ymffrost yn eu hamserau.
8 Y mae rhai ohonynt a adawodd enw ar eu hôl,i bobl allu traethu eu clod yn llawn.
9 Ond y mae eraill nad oes iddynt goffadwriaeth;darfu amdanynt fel pe baent heb eu geni;aethant fel rhai na fuont erioed,a'u plant ar eu holau yr un modd.
10 Ond nid felly ein cyndadau; gwŷr teyrngar oeddent hwy,ac nid aeth eu gweithredoedd da yn angof.