1 O hil Jacob cododd Duw ŵr teyrngar iddo,a gafodd ffafr yng ngolwg pobun,a'i garu gan Dduw a phobl;Moses oedd ef, o fendigedig goffadwriaeth.
2 Lluniodd Duw ef yn un mewn gogoniant â'r angylion sanctaidd,a pheri i'w elynion ei ofni'n ddirfawr.
3 Trwy ei air ef rhoes Duw derfyn ar yr arwyddion;a rhoes iddo anrhydedd yng ngŵydd brenhinoedd.Rhoes iddo orchmynion ar gyfer ei bobl,a dangos iddo rywbeth o'i ogoniant ei hun.
4 Am ei ffydd a'i addfwynder, fe'i cysegrodd,a'i ddewis ef o blith pawb byw.
5 Caniataodd iddo glywed ei lais,a'i arwain i mewn i'r cwmwl tywyll;wyneb yn wyneb, rhoes iddo'r gorchmynion,cyfraith i roi bywyd a gwybodaeth,i ddysgu ei gyfamod i Jacoba'i farnedigaethau i Israel.
6 Dyrchafodd Aaron hefyd, gŵr sanctaidd fel Moses,a brawd iddo, o lwyth Lefi.
7 Gwnaeth gyfamod tragwyddol ag ef,a rhoi offeiriadaeth ei bobl iddo.Addurnodd ef â thlysau caina'i arwisgo â mantell ogoneddus.