1 Y mae coffadwriaeth Joseia fel arogldarthwedi ei weithio'n fedrus a'i ddarparu gan beraroglydd;y mae ei felyster fel mêl i bob genau,neu fel cerddoriaeth mewn gwledd o win.
2 Gweithredodd ef yn uniawn er tröedigaeth y bobl,gan fwrw ymaith bob ffieiddbeth anghyfreithlon.
3 Cyfeiriodd ei galon yn union at yr Arglwydd,ac yn nyddiau gwrthod y gyfraith bu'n gadarn ei ymlyniad wrth wir grefydd.
4 Ac eithrio Dafydd a Heseceia a Joseia,pentyrru trosedd ar drosedd a wnaeth pob brenin;cefnasant ar gyfraith y Goruchaf.Ac felly y darfu am frenhinoedd Jwda,
5 oherwydd ildiasant eu gallu i erailla'u gogoniant i genedl estron.
6 Llosgwyd y ddinas etholedig, cartref y cysegr,a gadael ei heolydd yn ddiffeithwch,
7 fel y proffwydodd Jeremeia, y gŵr hwnnw a gamdriniwyd,ac yntau wedi ei gysegru'n broffwyd yn y groth,i ddiwreiddio, i ddrygu ac i ddinistrio,a hefyd i adeiladu ac i blannu.