11 Pan roddai amdano ei fantell ogoneddus,ac ymwisgo yn ei gyflawn ysblander,wrth fynd i fyny at yr allor sanctaiddbyddai'n tywynnu gogoniant ar fangre'r cysegr.
12 Wrth gymryd darnau'r aberth o ddwylo'r offeiriaid,ac yntau'n sefyll wrth le tân yr allor,a'i frodyr yn dorch o'i amgylch,yr oedd fel cedrwydden ifanc yn Lebanonyng nghanol coedlan o balmwydd.
13 A holl feibion Aaron yn eu gwychder,ac offrymau'r Arglwydd yn eu dwylo,yn sefyll o flaen cynulleidfa gyflawn Israel,
14 byddai yntau'n cwblhau defodau'r allorau,a rhoi trefn ar yr offrwm i'r Goruchaf a'r Hollalluog:
15 yn estyn ei law at gwpan y diodoffrwmac yn arllwys ohono waed y grawnwin,gan ei dywallt wrth droed yr allor,yn berarogl i'r Goruchaf, Brenin pawb.
16 Yna gwaeddai meibion Aarona chanu eu hutgyrn o fetel coeth,nes bod y sŵn yn atseinio'n hyglywi'w hatgoffa gerbron y Goruchaf.
17 Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilyddyn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaeari addoli eu Harglwydd,yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.