5 Mor ogoneddus ydoedd, a'r bobl yn tyrru o'i gwmpaswrth iddo ddod allan trwy len y deml!
6 Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau,neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;
7 fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf,fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,
8 fel rhosyn yn blodeuo yn y gwanwyn,fel lili ger ffynnon o ddŵr,fel pren thus yn yr haf,
9 fel arogldarth yn llosgi mewn thuser,fel llestr o aur coethwedi ei addurno â meini gwerthfawr o bob rhyw fath,
10 fel olewydden yn llwythog â ffrwyth,ac fel cypreswydden a'i phen yn y cymylau.
11 Pan roddai amdano ei fantell ogoneddus,ac ymwisgo yn ei gyflawn ysblander,wrth fynd i fyny at yr allor sanctaiddbyddai'n tywynnu gogoniant ar fangre'r cysegr.