10 Gelwais ar yr Arglwydd, tad fy arglwydd,i beidio â chefnu arnaf mewn dyddiau o gyfyngder,a minnau'n ddiymgeledd yn amser traha.Moliannaf dy enw yn ddi-baid,a chanaf emynau mewn diolchgarwch.
11 Gwrandawyd fy ngweddi,oherwydd achubaist fi rhag marwolaetha'm gwaredu o'r amser drwg.
12 Am hynny diolchaf iti a'th foliannu,a bendithiaf dy enw, O Arglwydd.
13 Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau,ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.
14 Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi,a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.
15 O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.Cedwais fy nhroed ar lwybr unionwrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.
16 Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais,ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;