15 O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.Cedwais fy nhroed ar lwybr unionwrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.
16 Ar y gwrandawiad cyntaf, fe'i cefais,ac ennill i mi fy hun lawer o addysg;
17 cynnydd fu fy rhan trwyddi hi.I'r hwn a roes imi ddoethineb y rhof ogoniant.
18 Oherwydd penderfynais gyflawni ei gofynion,a bûm yn llawn sêl dros y da; felly ni chywilyddir mohonof.
19 Yr wyf fi wedi brwydro amdani hi,gan fod yn fanwl gywir wrth gadw'r gyfraith.Estynnais fy nwylo i fyny tua'r nef,gan alaru oblegid fy anwybodaeth ohoni.
20 Cyfeiriais fy mywyd tuag ati,ac ar gyfrif fy nglanhad, fe'i cefais;cydiais fy nghalon wrthi hi o'r cychwyn,ac am hynny ni'm gadewir yn amddifad byth.
21 Cynhyrfwyd ynof chwant i'w cheisio,ac am hynny enillais feddiant ar drysor da.