4 Gwaredaist fi o'r blinderau lawer a ddioddefais,o fwg taglyd y fflamau a'm hamgylchynai,o ganol y tân nad oeddwn wedi ei gynnau,
5 o ddyfnder crombil Trigfan y Meirw,a rhag tafod aflan a'i eiriau celwyddog—
6 y tafod anghyfiawn a'm henllibiodd wrth y brenin.Deuthum innau'n agos i farwolaeth,a disgynnais bron hyd at Drigfan y Meirw.
7 Yr oeddent yn f'amgylchu ar bob tu, ac nid oedd neb i'm helpu;yr oeddwn yn chwilio am gymorth gan eraill, ond nid oedd neb ar gael.
8 Yna cofiais am dy drugaredd di, Arglwydd,ac am dy weithredoedd o'r dechrau cyntaf:dy fod yn gwaredu'r rhai sy'n dal i ddisgwyl wrthyt,ac yn eu hachub o law eu gelynion.
9 Dyrchefais f'erfyniad o'r ddaear,a gweddïais am gael fy arbed rhag marw.
10 Gelwais ar yr Arglwydd, tad fy arglwydd,i beidio â chefnu arnaf mewn dyddiau o gyfyngder,a minnau'n ddiymgeledd yn amser traha.Moliannaf dy enw yn ddi-baid,a chanaf emynau mewn diolchgarwch.