10 Paid â bod yn wangalon yn dy weddi,nac esgeuluso rhoi elusen.
11 Paid â chwerthin am ben rhywun yng nghanol profiad chwerw,oherwydd yr Un sy'n darostwng sy'n dyrchafu hefyd.
12 Paid â phalu celwydd yn erbyn dy frawd,na gwneud dim tebyg i gyfaill chwaith.
13 Paid byth â dymuno dweud unrhyw gelwydd,oherwydd ni ddaw dim da o ddilyn arferiad felly.
14 Paid â bod yn dafodrydd yng nghwmni henuriaid,nac ailadrodd dy eiriau yn dy weddi.
15 Paid â chasáu gwaith llafurusna gwaith ar y tir; fe'u hordeiniwyd gan y Goruchaf.
16 Paid ag ymrestru yn rhengoedd y pechaduriaid;cofia na fydd oedi ar ddigofaint.