15 Paid â chasáu gwaith llafurusna gwaith ar y tir; fe'u hordeiniwyd gan y Goruchaf.
16 Paid ag ymrestru yn rhengoedd y pechaduriaid;cofia na fydd oedi ar ddigofaint.
17 Darostwng dy hunan i'r eithaf,oherwydd tân a phryf fydd cosb yr annuwiol.
18 Paid â chyfnewid cyfaill am elw,na brawd cywir am aur Offir.
19 Paid â'th amddifadu dy hun o wraig ddoeth a da,oherwydd gwell nag aur yw ei hawddgarwch hi.
20 Paid â cham-drin caethwas sy'n gweithio'n onest,na gwas cyflog sy'n ymroi i'th wasanaeth.
21 Boed iti garu gwas deallus;paid â gwrthod ei ryddid iddo.