21 Boed iti garu gwas deallus;paid â gwrthod ei ryddid iddo.
22 Os oes gennyt anifeiliaid, gofala amdanynt,ac os ydynt yn fuddiol iti, cadw hwy yn dy feddiant.
23 Os oes gennyt feibion, hyffordda hwy,a phlyg hwy dan yr iau o'u hieuenctid.
24 Os oes gennyt ferched, gwylia bod eu cyrff yn bur,a phaid â bod yn rhy dirion dy agwedd atynt.
25 Rho dy ferch mewn priodas, a byddi wedi cyflawni camp fawr;ond rho hi i ŵr deallus.
26 Os oes gennyt wraig wrth dy fodd, paid â'i bwrw hi ymaith,ond paid â'th ymddiried dy hun i wraig sy'n atgas gennyt.
27 Anrhydedda dy dad â'th holl galon,a phaid ag anghofio gwewyr esgor dy fam.