24 Os oes gennyt ferched, gwylia bod eu cyrff yn bur,a phaid â bod yn rhy dirion dy agwedd atynt.
25 Rho dy ferch mewn priodas, a byddi wedi cyflawni camp fawr;ond rho hi i ŵr deallus.
26 Os oes gennyt wraig wrth dy fodd, paid â'i bwrw hi ymaith,ond paid â'th ymddiried dy hun i wraig sy'n atgas gennyt.
27 Anrhydedda dy dad â'th holl galon,a phaid ag anghofio gwewyr esgor dy fam.
28 Cofia mai ohonynt hwy y cefaist dy eni.Sut y gelli dalu'n ôl iddynt am a wnaethant hwy i ti?
29 Ofna'r Arglwydd â'th holl enaid,a pharcha'i offeiriaid ef.
30 Câr dy Greawdwr â'th holl allu,a phaid â chefnu ar ei weinidogion.