Diarhebion 10 BWM

1 Diarhebion Solomon. Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffôl a dristâ ei fam.

2 Ni thycia trysorau drygioni: ond cyfiawnder a wared rhag angau.

3 Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymaith gyfoeth y drygionus.

4 Y neb a weithio â llaw dwyllodrus, fydd dlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.

5 Mab synhwyrol yw yr hwn a gasgl amser haf: ond mab gwaradwyddus yw yr hwn a gwsg amser cynhaeaf.

6 Bendithion fydd ar ben y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

7 Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig: ond enw y drygionus a bydra.

8 Y galon ddoeth a dderbyn orchmynion: ond y ffôl ei wefusau a gwymp.

9 Y neb a rodio yn uniawn, a rodia yn ddiogel: ond y neb a gam‐dry ei ffyrdd, a fydd hynod.

10 Y neb a amneidio â'i lygaid, a bair flinder: a'r ffôl ei wefusau a gwymp.

11 Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn: ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

12 Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.

13 Yng ngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb: ond gwialen a weddai i gefn yr angall.

14 Y doethion a ystoriant wybodaeth: ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffôl.

15 Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gadernid ef: ond dinistr y tlodion yw eu tlodi.

16 Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd: ond ffrwyth y drygionus tuag at bechod.

17 Ar y ffordd i fywyd y mae y neb a gadwo addysg: ond y neb a wrthodo gerydd, sydd yn cyfeiliorni.

18 A guddio gas â gwefusau celwyddog, a'r neb a ddywed enllib, sydd ffôl.

19 Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod: ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol.

20 Tafod y cyfiawn sydd fel arian detholedig: calon y drygionus ni thâl ond ychydig.

21 Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer: ond y ffyliaid, o ddiffyg synnwyr, a fyddant feirw.

22 Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyda hi.

23 Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg: a chan ŵr synhwyrol y mae doethineb.

24 Y peth a ofno y drygionus, a ddaw iddo: ond y peth a ddeisyfo y rhai cyfiawn, Duw a'i rhydd.

25 Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth.

26 Megis finegr i'r dannedd, a mwg i'r llygaid, felly y bydd y diog i'r neb a'i gyrrant.

27 Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.

28 Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano.

29 Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i'r perffaith: ond dinistr fydd i'r rhai a wnânt anwiredd.

30 Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.

31 Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a'r tafod cyndyn a dorrir ymaith.

32 Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31