1 Fy mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr,
2 Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau.
3 Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â'th gymydog.
4 Na ddyro gwsg i'th lygaid, na hun i'th amrantau.
5 Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.
6 Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth:
7 Nid oes ganddo neb i'w arwain, i'w lywodraethu, nac i'w feistroli;
8 Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf.
9 Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o'th gwsg?
10 Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu.
11 Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a'th angen fel gŵr arfog.
12 Dyn i'r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn.
13 Efe a amneidia â'i lygaid, efe a lefara â'i draed, efe a ddysg â'i fysedd.
14 Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau.
15 Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.
16 Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef:
17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a'r dwylo a dywalltant waed gwirion,
18 Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni,
19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a'r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.
20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam.
21 Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf.
22 Pan rodiech, hi a'th gyfarwydda; pan orweddych, hi a'th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi.
23 Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg:
24 I'th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr.
25 Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â'i hamrantau.
26 Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr.
27 A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad?
28 A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed?
29 Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân.
30 Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn:
31 Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ.
32 Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a'i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun.
33 Archoll a gwarth a gaiff efe; a'i gywilydd ni ddileir.
34 Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial.
35 Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.