Diarhebion 4 BWM

1 Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.

2 Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.

3 Canys yr oeddwn yn fab i'm tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.

4 Efe a'm dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.

5 Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.

6 Nac ymâd â hi, a hi a'th geidw: câr hi, a hi a'th wared di.

7 Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â'th holl gyfoeth cais ddeall.

8 Dyrchafa di hi, a hithau a'th ddyrchafa di: hi a'th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.

9 Hi a rydd ychwaneg o ras i'th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.

10 Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.

11 Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.

12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi.

13 Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.

14 Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

15 Gochel hi, na ddos ar hyd‐ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.

16 Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a'u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn.

17 Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.

18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.

19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.

21 Na ad iddynt fyned ymaith o'th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.

22 Canys bywyd ydynt i'r neb a'u caffont, ac iechyd i'w holl gnawd.

23 Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.

24 Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.

25 Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o'th flaen.

26 Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.

27 Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31