Diarhebion 8 BWM

1 Onid yw doethineb yn gweiddi? a deall yn llefain?

2 Ym mhen lleoedd uchel, gerllaw y ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.

3 Gerllaw y pyrth, ym mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae hi yn llefain:

4 Arnoch chwi, wŷr, yr wyf fi yn galw; ac at feibion dynion y mae fy llais.

5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.

6 Gwrandewch: canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog; ac a agoraf fy ngwefusau ar bethau uniawn.

7 Canys fy ngenau a draetha wirionedd; a ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.

8 Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn; nid oes ynddynt na gŵyrni na thrawsedd.

9 Y maent hwy oll yn amlwg i'r neb a ddeallo, ac yn uniawn i'r rhai a gafodd wybodaeth.

10 Derbyniwch fy addysg, ac nid arian; a gwybodaeth o flaen aur etholedig.

11 Canys gwell yw doethineb na gemau: nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.

12 Myfi doethineb wyf yn trigo gyda challineb: yr ydwyf yn cael allan wybodaeth cyngor.

13 Ofn yr Arglwydd yw casáu drygioni: balchder, ac uchder, a ffordd ddrygionus, a'r genau traws, sydd gas gennyf fi.

14 Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.

15 Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna'r penaethiaid gyfiawnder.

16 Trwof fi y rheola tywysogion a phendefigion, sef holl farnwyr y ddaear.

17 Y sawl a'm carant i, a garaf finnau; a'r sawl a'm ceisiant yn fore, a'm cânt.

18 Gyda myfi y mae cyfoeth, ac anrhydedd, golud parhaus, a chyfiawnder.

19 Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie, nag aur coeth; a'm cynnyrch sydd well na'r arian detholedig.

20 Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn:

21 I beri i'r rhai a'm carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.

22 Yr Arglwydd a'm meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.

23 Er tragwyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear.

24 Pryd nad oedd dyfnder y'm cenhedlwyd, cyn bod ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.

25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau y'm cenhedlwyd:

26 Cyn gwneuthur ohono ef y ddaear, na'r meysydd, nac uchder llwch y byd.

27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:

28 Pan gadarnhaodd efe y cymylau uwchben: a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder:

29 Pan roddes efe ei ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef: pan osododd efe sylfeini y ddaear:

30 Yna yr oeddwn i gydag ef megis un wedi ei feithrin gydag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser;

31 Ac yn llawenychu yng nghyfanheddle ei ddaear ef; a'm hyfrydwch oedd gyda meibion dynion.

32 Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.

33 Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi.

34 Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i.

35 Canys y neb a'm caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd.

36 Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â'i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31