Diarhebion 29 BWM

1 Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei war, a ddryllir yn ddisymwth, fel na byddo meddyginiaeth.

2 Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawenychant: ond pan fyddo yr annuwiol yn llywodraethu, y bobl a ocheneidia.

3 Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dad: ond y neb a fyddo gyfaill i buteiniaid, a ddifa ei dda.

4 Brenin trwy farn a gadarnha y wlad: ond y neb a garo anrhegion, a'i dinistria hi.

5 Y gŵr a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sydd yn taenu rhwyd i'w draed ef.

6 Yng nghamwedd dyn drwg y mae magl: ond y cyfiawn a gân ac a fydd lawen.

7 Y cyfiawn a ystyria fater y tlodion: ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.

8 Dynion gwatwarus a faglant ddinas: ond y doethion a droant ymaith ddigofaint.

9 Os gŵr doeth a ymryson â dyn ffôl, pa un bynnag a wnêl ai digio ai chwerthin, eto ni bydd llonyddwch.

10 Gwŷr gwaedlyd a gasânt yr uniawn: ond yr uniawn a gais ei enaid ef.

11 Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a'i hatal hyd yn ôl.

12 Os llywydd a wrendy ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol.

13 Y tlawd a'r twyllodrus a gydgyfarfyddant; a'r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.

14 Y brenin a farno y tlodion yn ffyddlon, ei orsedd a sicrheir byth.

15 Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb: ond mab a gaffo ei rwysg ei hun, a gywilyddia ei fam.

16 Pan amlhao y rhai annuwiol, yr amlha camwedd: ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.

17 Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lonyddwch; ac a bair hyfrydwch i'th enaid.

18 Lle ni byddo gweledigaeth, methu a wna y bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fyd ef.

19 Ni chymer gwas addysg ar eiriau: canys er ei fod yn deall, eto nid etyb.

20 A weli di ddyn prysur yn ei eiriau? gwell yw y gobaith am y ffôl nag amdano ef.

21 Y neb a ddygo ei was i fyny yn foethus o'i febyd, o'r diwedd efe a fydd fel mab iddo.

22 Gŵr dicllon a ennyn gynnen; a'r llidiog sydd aml ei gamwedd.

23 Balchder dyn a'i gostwng ef: ond y gostyngedig o ysbryd a gynnal anrhydedd.

24 Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felltith, ac nis mynega.

25 Ofn dyn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a ddyrchefir.

26 Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae barn pob dyn.

27 Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr uniawn ei ffordd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31