Diarhebion 21 BWM

1 Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd: efe a'i try hi lle y mynno.

2 Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau.

3 Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth.

4 Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.

5 Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.

6 Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.

7 Anrhaith yr annuwiol a'u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.

8 Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.

9 Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

10 Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef.

11 Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth.

12 Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.

13 Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.

14 Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.

15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.

16 Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.

17 Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a'r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.

18 Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a'r troseddwr dros yr uniawn.

19 Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon.

20 Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a'u llwnc hwynt.

21 Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.

22 Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.

23 Y neb a gadwo ei enau a'i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.

24 Y balch a'r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.

25 Deisyfiad y diog a'i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:

26 Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.

27 Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?

28 Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.

29 Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.

30 Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr Arglwydd.

31 Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr Arglwydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31