Diarhebion 28 BWM

1 Yr annuwiol a ffy heb neb yn ei erlid: ond y rhai cyfiawn sydd hy megis llew.

2 Oherwydd camwedd gwlad, aml fydd ei phenaethiaid: ond lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir.

3 Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth.

4 Y rhai a ymadawant â'r gyfraith, a ganmolant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt.

5 Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd, a ddeallant bob peth.

6 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na'r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoethog.

7 Y neb a gadwo y gyfraith, sydd fab deallus: ond y neb a fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad.

8 Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i'r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.

9 Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando'r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.

10 Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.

11 Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a'i chwilia ef allan.

12 Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn.

13 Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a'u haddefo, ac a'u gadawo, a gaiff drugaredd.

14 Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol: ond y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg.

15 Fel y llew rhuadus, a'r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion.

16 Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd‐dra, a estyn ei ddyddiau.

17 Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i'r pwll; nac atalied neb ef.

18 Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith.

19 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi.

20 Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd.

21 Nid da derbyn wyneb: canys y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam.

22 Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno.

23 Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na'r neb a draetho weniaith â'i dafod.

24 Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, sydd gymar i ddinistriwr.

25 Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, a wneir yn fras.

26 Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir.

27 Y neb a roddo i'r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion.

28 Pan ddyrchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31