Diarhebion 17 BWM

1 Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.

2 Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o'r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.

3 Y tawddlestr sydd i'r arian, a'r ffwrn i'r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd.

4 Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a'r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.

5 Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a'r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog.

6 Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.

7 Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog.

8 Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna.

9 Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.

10 Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith.

11 Y dyn drwg sydd â'i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.

12 Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â'r ffôl yn ei ffolineb.

13 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â'i dŷ ef.

14 Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni.

15 Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau.

16 Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo?

17 Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.

18 Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill.

19 Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a'r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed.

20 Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a'r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg.

21 Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd.

22 Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.

23 Yr annuwiol a dderbyn rodd o'r fynwes, i gamdroi llwybrau barn.

24 Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd.

25 Mab ffôl a bair ddicllonedd i'w dad, a chwerwder i'w fam.

26 Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn.

27 Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd.

28 Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a'r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31