Diarhebion 12 BWM

1 Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.

2 Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.

3 Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.

4 Gwraig rymus sydd goron i'w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

5 Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

6 Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a'u gwared hwynt.

7 Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

8 Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

9 Gwell yw yr hwn a'i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na'r hwn a'i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.

10 Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.

11 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.

12 Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.

13 Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.

14 Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.

15 Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.

16 Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.

17 Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.

18 Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.

19 Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.

20 Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.

21 Ni ddigwydd i'r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.

22 Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef.

23 Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.

25 Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a'i llawenha hi.

26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a'u twylla hwynt.

27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.

28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31