Diarhebion 13 BWM

1 Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd.

2 Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd.

3 Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.

4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras.

5 Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.

6 Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.

7 Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.

8 Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.

9 Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.

10 Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda'r pwyllog y mae doethineb.

11 Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â'i law a chwanega.

12 Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.

13 Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir.

14 Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau.

15 Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.

16 Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.

17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd.

18 Tlodi a gwaradwydd fydd i'r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir.

19 Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.

20 Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.

21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i'r rhai cyfiawn.

22 Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i'r cyfiawn.

23 Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.

24 Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a'i câr ef, a'i cerydda mewn amser.

25 Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31