Diarhebion 25 BWM

1 Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda.

2 Anrhydedd Duw yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan.

3 Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.

4 Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i'r gof arian lestr.

5 Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a'i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder.

6 Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr:

7 Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na'th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid.

8 Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog.

9 Ymresyma â'th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall:

10 Rhag i'r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i'th gywilydd na thro ymaith.

11 Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig.

12 Ceryddwr doeth i'r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol.

13 Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i'r rhai a'i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid.

14 Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law.

15 Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn.

16 Pan gaffech fêl, bwyta a'th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef.

17 Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a'th gasáu.

18 Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.

19 Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.

20 Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist.

21 Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i'w hyfed:

22 Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a'r Arglwydd a dâl i ti.

23 Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar.

24 Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

25 Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell.

26 Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr.

27 Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw.

28 Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31