Diarhebion 15 BWM

1 Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint.

2 Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb.

3 Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd, yn canfod y drygionus a'r daionus.

4 Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd.

5 Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall.

6 Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.

7 Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.

8 Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo.

9 Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.

10 Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a'r neb a gasao gerydd, a fydd marw.

11 Uffern a dinistr sydd gerbron yr Arglwydd: pa faint mwy, calonnau plant dynion?

12 Ni châr y gwatwarwr mo'r neb a'i ceryddo; ac nid â at y doethion.

13 Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd.

14 Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb.

15 Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen.

16 Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd, na thrysor mawr a thrallod gydag ef.

17 Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef.

18 Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson.

19 Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad.

20 Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam.

21 Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn.

22 Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt.

23 Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser!

24 Ffordd y bywyd sydd fry i'r synhwyrol, i ochel uffern obry.

25 Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw.

26 Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau y glân ŷnt beraidd.

27 Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw.

28 Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.

29 Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn.

30 Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn.

31 Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion.

32 Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall.

33 Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31