Diarhebion 20 BWM

1 Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.

2 Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a'i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.

3 Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth.

4 Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim.

5 Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a'i tyn allan.

6 Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?

7 Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef.

8 Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â'i lygaid bob drwg.

9 Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod?

10 Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o'r ddau.

11 Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith.

12 Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o'r ddau.

13 Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y'th ddigoner â bara.

14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o'r neilltu, efe a ymffrostia.

15 Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr.

16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones.

17 Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o'r diwedd ei enau a lenwir â graean.

18 Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela.

19 Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â'r hwn a wenieithio â'i wefusau.

20 Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du.

21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir.

22 Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a'th achub.

23 Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda.

24 Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o'i ffordd ei hun?

25 Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn.

26 Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt.

27 Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol.

28 Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a'i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd.

29 Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn.

30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31