Diarhebion 2 BWM

1 Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;

2 Fel y parech i'th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;

3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;

4 Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;

5 Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw.

6 Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o'i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.

7 Y mae ganddo ynghadw i'r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i'r sawl a rodiant yn uniawn.

8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.

9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.

10 Pan ddelo doethineb i mewn i'th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;

11 Yna cyngor a'th gynnal, a synnwyr a'th geidw:

12 I'th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;

13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;

14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;

15 Y rhai sydd â'u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:

16 I'th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;

17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw.

18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a'i llwybrau at y meirw.

19 Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.

20 Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.

21 Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a'r rhai perffaith a gânt aros ynddi.

22 Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a'r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31