Diarhebion 11 BWM

1 Cloriannau anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond carreg uniawn sydd fodlon ganddo ef.

2 Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda'r gostyngedig y mae doethineb.

3 Perffeithrwydd yr uniawn a'u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a'u difetha hwynt.

4 Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau.

5 Cyfiawnder y perffaith a'i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus.

6 Cyfiawnder y cyfiawn a'u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.

7 Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir.

8 Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a'r drygionus a ddaw yn ei le ef.

9 Rhagrithiwr â'i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth.

10 Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.

11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.

12 Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn.

13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.

14 Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthiant: ond lle y byddo llawer o gynghorwyr, y bydd diogelwch.

15 Blinder mawr a gaiff y neb a fachnïo dros ddieithrddyn: ond y neb a gasao fachnïaeth, fydd ddiogel.

16 Gwraig rasol a gaiff anrhydedd; a'r galluog a gânt gyfoeth.

17 Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.

18 Y drygionus a wna waith twyllodrus: ond i'r neb a heuo gyfiawnder, y bydd gwobr sicr.

19 Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angau.

20 Ffiaidd gan yr Arglwydd y neb sydd gyndyn eu calonnau: eithr hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu ffyrdd.

21 Er maint fyddo cymorth, y drygionus ni bydd ddieuog: ond had y cyfiawn a waredir.

22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, yw benyw lân heb synnwyr.

23 Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn unig: ond gobaith y drygionus sydd ddicter.

24 Rhyw un a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo: a rhyw un arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.

25 Yr enaid hael a fraseir: a'r neb a ddyfrhao, a ddyfrheir yntau hefyd.

26 Y neb a atalio ei ŷd, y bobl a'i melltithia: ond bendith a fydd ar ben y neb a'i gwertho.

27 Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y neb a geisio ddrwg, iddo ei hun y daw.

28 Y neb a roddo ei oglyd ar ei gyfoeth, a syrth: ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.

29 Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchenoga y gwynt: a'r ffôl a fydd gwas i'r synhwyrol ei galon.

30 Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd: a'r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.

31 Wele, telir i'r cyfiawn ar y ddaear: pa faint mwy i'r drygionus a'r pechadur?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31