Diarhebion 19 BWM

1 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na'r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.

2 Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a'r hwn sydd brysur ei draed a becha.

3 Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a'i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd.

4 Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.

5 Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.

6 Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i'r hael.

7 Holl frodyr y tlawd a'i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato.

8 A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni.

9 Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir.

10 Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid.

11 Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd.

12 Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt.

13 Mab ffôl sydd orthrymder i'w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.

14 Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog.

15 Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna.

16 Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a'r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw.

17 Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd; a'i rodd a dâl efe iddo drachefn.

18 Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i'w ddifetha.

19 Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a'i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.

20 Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.

21 Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr Arglwydd, hwnnw a saif.

22 Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na'r gŵr celwyddog.

23 Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a'r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.

24 Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau.

25 Taro watwarwr, a'r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth.

26 Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr.

27 Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.

28 Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd.

29 Barn sydd barod i'r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31