Diarhebion 14 BWM

1 Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a'i tyn ef i lawr â'i dwylo.

2 Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr Arglwydd; a'r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.

3 Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a'u ceidw hwynt.

4 Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.

5 Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau.

6 Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i'r deallus.

7 Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth.

8 Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.

9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da.

10 Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a'r dieithr ni bydd gyfrannog o'i llawenydd hi.

11 Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua.

12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau.

13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o'i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef.

15 Yr ehud a goelia bob gair: a'r call a ddeil ar ei gamre.

16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus.

17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.

18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.

19 Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a'r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.

20 Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog.

21 A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.

22 Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i'r sawl a ddychmygant ddaioni.

23 Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi.

24 Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.

25 Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.

26 Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i'w blant ef y bydd noddfa.

27 Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau.

28 Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog.

29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd.

30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn.

31 Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a'i hanrhydedda ef.

32 Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.

33 Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir.

34 Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.

35 Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31