Diarhebion 18 BWM

1 Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth.

2 Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i'w galon ei datguddio ei hun.

3 Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd.

4 Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.

5 Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.

6 Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a'i enau a eilw am ddyrnodiau.

7 Genau y ffôl yw ei ddinistr, a'i wefusau sydd fagl i'w enaid.

8 Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol.

9 Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i'r treulgar.

10 Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel.

11 Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.

12 Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd.

13 Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

14 Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a'i cyfyd?

15 Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth.

16 Rhodd dyn a ehanga arno, ac a'i dwg ef gerbron penaethiaid.

17 Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a'i chwilia ef.

18 Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.

19 Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a'u hymryson sydd megis trosol castell.

20 A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.

21 Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a'r rhai a'i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef.

22 Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd.

23 Y tlawd a ymbil; a'r cyfoethog a etyb yn erwin.

24 Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31